SL(5)237 – Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau mewn perthynas â Chymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae’r Rheoliadau:

·         Yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i dynnu sylw at y lefelau meincnod newydd ar acrylamid mewn bwydydd penodol a nodir yn Rheoliad (UE) Rhif 2017/2158, y mae’n rhaid i fusnesau geisio cydymffurfio â hwy (Rheoliad 11);

·         Yn diwygio Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013 i weithredu Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 1040/2014 ynghylch proteinau planhigion o wenith, pys a thatws i’w defnyddio i ddarparu eglurhad ynghylch cynhyrchion y mae Rheoliadau 2013 yn gymwys iddynt (Rheoliad 25); a

·         Yn gwneud nifer o welliannau amrywiol eraill i offerynnau statudol bwyd ac offerynnau statudol sy’n gysylltiedig â bwyd anifeiliaid i, ymhlith pethau eraill, gywiro cyfeiriadau at ddeddfwriaeth ddomestig ac offerynnau’r UE sydd wedi dyddio, i ddiddymu darpariaethau ac offerynnau statudol sydd wedi dod i ben neu sy’n ddiangen, ac i gywiro mân wallau.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae Rheoliad 22(3), sy’n diwygio Rheoliad 14(1) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 /2705, yn cyfeirio at ddarpariaethau trosiannol a gynhwysir yn "Erthygl 6" o Reoliad y Comisiwn (UE) 2018/831. Mewn gwirionedd, mae’r darpariaethau trosiannol hynny yn ymddangos yn Erthygl 2 o’r Rheoliad hwnnw.

Fodd bynnag, cafodd y gwall hwn ei gywiro wedyn gan Reoliad 4 o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2018/913, a ddaeth i rym ar 6 Medi 2018.

Rhinweddau: craffu

Ni nodir dim pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol amrywiol sy’n gweithredu ac yn gorfodi rhwymedigaethau’r UE mewn perthynas â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, ac felly bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Mae’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod gwahanol elfennau o gyfraith bwyd a diogelwch bwyd a hylendid, a’r rheolaethau sy’n gwirio cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (rheolaethau swyddogol), safonau cyfansoddiadol bwyd a safonau labelu bwyd oll yn feysydd polisi sy’n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau adran 12 o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Felly, mae’r gyfraith sy’n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE a gaiff ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

10 Medi 2018